Cymraeg
Pan fydd rhywun wedi ceisio datrys problem yn ymwneud â’u pensiwn, ac nad ydynt yn fodlon â’r canlyniad, gallant ofyn i ni helpu.
Rydym yn sefydliad annibynnol wedi’i sefydlu gan gyfraith i ymchwilio i gwynion am weinyddiaeth pensiwn. Gallwn hefyd ystyried cwynion am weithredoedd a phenderfyniadau’r Gronfa Diogelu Pensiynau ac am rai penderfyniadau a wneir gan y Cynllun Cymorth Ariannol.
Rydym yn edrych ar y ffeithiau heb ochri â neb. Ac mae gennym bwerau cyfreithiol i wneud penderfyniadau sy’n derfynol, yn rhwymol ac y gellid eu gorfodi yn y llys. Mae ein gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim.
I ganfod mwy am yr hyn a wnawn a’r ffordd y gallwn ni helpu, gallwch lwytho ein taflenni i lawr. Gallwch hefyd gael golwg ar ein Polisi Iaith Gymraeg.